Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 5 Mawrth 2019.
Rwy'n cytuno'n llwyr, Llywydd, â'r hyn y mae'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr wedi'i ddweud. Ac mae rhyfyg y math hwnnw o gynnig yn dangos i chi beth fyddai Brexit 'heb gytundeb' yn ei olygu: diofalwch ynghylch heddwch ar ynys Iwerddon; parodrwydd i aberthu rhannau cyfan o economi Cymru wrth fynd ar drywydd yr ideoleg—