Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 5 Mawrth 2019.
Llywydd, diolch yn fawr. A diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn yr hyn sydd wedi bod yn ddadl ragorol ac angerddol, yn fy marn i. Mae Brexit wedi bod yn beiriant ar gyfer arloesedd cyfansoddiadol. Y prynhawn yma, am y tro cyntaf, rydym ni ar y cyd, yn ein gwahanol leoedd, yn trafod â Senedd yr Alban gynnig sydd yn union yr un fath a gyflwynwyd gan y ddwy Lywodraeth gerbron y ddwy Senedd. Rydym ni'n gwneud hynny am reswm pwysig iawn, oherwydd drwy weithredu'n unigryw yn y modd hwn, rydym ni'n gobeithio y bydd ein pleidleisiau heno yn rhoi mwy o bwysau ar Brif Weinidog y DU i wneud y peth iawn, i gadw at y cyfrifoldebau sydd wedi'u rhoi yn ei dwylo ac i weithredu mewn modd sy'n amddiffyn buddiannau teuluoedd a phobl sy'n gweithio yn yr Alban ac yng Nghymru.
Yn ystod y misoedd diweddar, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi bod yn glir y byddai 'dim cytundeb' yn ganlyniad trychinebus. Ac fel y mae'r Aelodau wedi'i wneud yn glir yn y fan yma y prynhawn yma, dyna'r cynnig yr ydym ni'n ei drafod y prynhawn yma—dyna'r posibilrwydd yr ydym yn unedig o ran yr hyn yr ydym yn galw amdano, yn yr Alban ac yng Nghymru, i ddweud wrth Lywodraeth y DU i gymryd camau pendant i sicrhau na all 'dim cytundeb' fod y ffordd y byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Fe wnes i ddatganiad ar y cyd â Phrif Weinidog yr Alban y mis diwethaf. Fe wnaethom ni alw ar Brif Weinidog y DU i dynnu 'dim cytundeb' oddi ar y bwrdd a gofyn am estyniad ar unwaith i'r broses erthygl 50. Dywedodd Aelodau yn y Siambr hon, pan gawsom ddadl arno ar 7 Chwefror, nad oedd amser ar gael i'w wastraffu, ond mae'r Prif Weinidog wedi gwneud yn union hynny—mae hi wedi dibynnu ar y dacteg o oedi i orfodi dewis rhwng ei chytundeb niweidiol hi a dim cytundeb. Mae hi wedi llwyddo i argyhoeddi hyd yn oed unigolyn mor rhesymol â David Melding mai dyma'r dewis a wynebwn, ond nid dyna'r dewis, Llywydd—nid dyna'r dewis y mae'n rhaid inni ei wynebu. Nid yw'n ddewis y mae carfan helaeth o Gabinet Mrs May ei hun yn barod i'w gymryd—nid ydyn nhw'n credu mai ei chytundeb hi yw'r cytundeb gorau ac nid ydym ninnau ychwaith.
Nawr, mae'r Prif Weinidog yn dweud bod cadw 'dim cytundeb' ar y bwrdd yn cryfhau ei hochr hi yn y trafodaethau. Mae'r modd y mae hi'n gallu dal ei gafael ar y syniad hen ffasiwn hwnnw sydd wedi methu yn fater o syndod i lawer, ac yn sicr nid yw'n wir ei fod yn gwneud unrhyw ddaioni i ni yn awr. Dywedodd Jeremy Miles, wrth agor y ddadl, y bûm i ym Mrwsel ac ym Mharis yr wythnos diwethaf yn cynnal digwyddiadau Gŵyl Dewi ar ran Cymru. Cefais fy synnu gan gynifer y bobl sy'n ffrindiau i'r Deyrnas Unedig a ddywedodd wrthyf bod penderfyniad Prif Weinidog y DU i bleidleisio o blaid gwelliant Brady wedi chwalu pa bynnag hygrededd yr oedd ganddi ar ôl. Dyma Brif Weinidog a ddaeth i gytundeb—a ddaeth i gytundeb—gyda'r Undeb Ewropeaidd ac a oedd wedyn yn barod i bleidleisio yn erbyn y cytundeb yr oedd hi ei hun wedi ei gytuno. Nid oes unrhyw deimlad bod cadw 'dim cytundeb' ar y bwrdd rywsut yn cryfhau ei llaw hi yn yr amgylchiadau hynny yn cyd-fynd â realiti'r sefyllfa mewn unrhyw ffordd o gwbl.
Beth sydd yn wir yw bod perygl dim cytundeb yn cryfhau. Clywsom wir lais Brexit 'dim cytundeb' yn y Siambr yma y prynhawn yma. I Mark Reckless, mae penderfyniad pobl mewn refferendwm yn 2016 mor absoliwt fel y byddai ef, fel y dywedodd Carwyn Jones, yn hapus i fynd â ni oddi ar glogwyn yn y tywyllwch, a hynny heb olau.