Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 5 Mawrth 2019.
Fy safbwynt i yw'r safbwynt y cytunodd eich plaid chi a'm plaid i arno gyda'n gilydd. Dyna fy safbwynt i. Nawr, nid dyna eich safbwynt chi, oherwydd rydych chi wedi symud oddi wrth y safbwynt hwnnw, ond fy safbwynt i yw bod yna gytundeb i'w wneud, cytundeb a fyddai wedi diogelu economi a swyddi Cymru. Mae'n gytundeb y gwnaethoch chi gytuno iddo—cytunodd eich plaid iddo. Efallai nad yw'n addas i chi erbyn hyn, ond roedd yn addas i chi ar y pryd. Heddiw, rydych chi wedi newid eich meddwl. Mae hynny'n iawn—nid oes ots gen i am hynny o gwbl.