Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 5 Mawrth 2019.
Wel, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwy'n gobeithio y gallaf ddibynnu ar ei chefnogaeth i bob cam o Fil Deddfwriaeth (Cymru) wrth iddo fynd drwy'r Cynulliad, oherwydd ei fwriad yn rhannol yw mynd i'r afael â'r math o faterion—y materion pwysig—y mae hi wedi tynnu sylw atyn nhw yn ei chwestiwn atodol.
Mae ein setliad datganoli yn un cymhleth. Mae ganddo effaith benodol ar sut yr ydym yn deddfu o ganlyniad i hynny. Er gwaethaf 20 mlynedd o ddatganoli, mae llawer o'n deddfwriaeth—y rhan fwyaf ohoni, mewn gwirionedd—yn parhau i fod yn seiliedig ar Ddeddfau Senedd y DU—y rhan fwyaf o'n cyfraith—ac felly mae'n dasg i resymoli hynny. Ond mae hi'n nodi mater atodol penodol ond mater pwysig: wedi gwneud hyn, sut mae cyfleu hynny i'r cyhoedd wedyn? Ac mae hynny wrth galon yr hyn y bwriadwyd i'r ddeddfwriaeth honno ei gyflawni. Ie, y cydgrynhoi, ie y codeiddio, ond sut wedyn y caiff hynny ei gyhoeddi ar-lein mewn modd sy'n gyfredol, yn awdurdodol, yn ddwyieithog ac yn hygyrch? A allwn ni drefnu hyn mewn ffordd sy'n haws dod o hyd iddo , nid yn unig yn ôl dyddiad y gyfraith ond yn ôl pwnc? Rydym yn gweithio ar hynny'n hollol ar wahân, mewn gwirionedd, i'r cynigion yn y Bil. Felly, rwy'n gobeithio, wrth i'r Bil fynd trwy'r Cynulliad, y gallwn ni drafod y materion hynny ymhellach.