Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 5 Mawrth 2019.
Mae'n ddrwg gennyf, mae'n rhaid imi anghytuno â hynny. Rwyf i o'r farn fod yna tua 1,500 o wrthwynebwyr, a llawer o drigolion a chynghorwyr etholedig yn Aberconwy, a fyddai'n anghytuno â hynny, yn syml oherwydd y ffaith fy mod i, ynghyd â llawer o aelodau sydd wedi eu hethol yn ddemocrataidd, wedi treulio llawer o amser ac wedi gweithio i wrthwynebu datblygiadau tai dadleuol yn Aberconwy. Roedd y rhain yn digwydd pan ddeuai ceisiadau gerbron ar gyfer tir nad yw wedi ei ddynodi yn y cynllun datblygu lleol, yn destun ymchwiliad, ac eto, cyn i benderfyniad gael ei wneud, ar yr unfed awr ar ddeg, pan gafwyd 'Polisi Cynllunio Cymru—Rhifyn 10', er ein bod ni'n gallu cyfrannu at y cais gwreiddiol a'r gwrandawiad, ni roddwyd caniatâd i ni, na'r 1,300 arall ohonom chwaith, wneud sylwadau. Dim ond yr awdurdod lleol a'r datblygwr a gafodd wahoddiad i gyflwyno tystiolaeth newydd.
Nawr, mae hynny'n groes i rannau eraill y DU. Y rheswm a roddwyd am hyn yw mai polisi Gweinidogion Cymru oedd y dystiolaeth. Yn amlwg, mae hynny'n annheg ac yn afresymol, tra bod is-adran 47(7) Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Apeliadau a Chyfeirio Ceisiadau) (Cymru) 2017 yn caniatáu i sylwadau gael eu gwahodd pan fo unrhyw dystiolaeth newydd. Ond, yn yr achos hwn, mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu nad yw hynny'n gywir.
Felly, rwy'n gofyn i chi eto a fyddech chi'n barod i edrych ar hyn eto, fel Cwnsler Cyffredinol, oherwydd fy mod o'r farn bod hyn—wel, y mae—yn wendid yn ein deddfwriaeth yma yng Nghymru, ac a fyddech efallai yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, yn enwedig y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, i ystyried adolygu'r sefyllfa hon. Mae angen system arnom ni yng Nghymru, system gynllunio lle mae'n rhaid cael ymchwiliadau cynllunio tecach. Mae'n weithdrefn ddrud iawn, ac yn yr achos hwn, mewn dau gais gwan iawn, ond ceisiadau yr ymladdodd y datblygwr amdanyn nhw'n daer iawn, fe welsom ddeddfwriaeth yng Nghymru sydd wedi ein rhoi ni dan anfantais wirioneddol yn fy etholaeth i. Felly, mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn parhau i'w ymladd hyd nes y gwelaf y ddeddfwriaeth honno'n cael ei newid, ond rwy'n gofyn ichi, yn eich swydd chi, a fyddech chi'n ein cefnogi ni yn hyn o beth.