Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 5 Mawrth 2019.
Gan aros gyda'r thema 'Balance for Better', mae llawer iawn y mae angen inni i gyd ei wneud i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ar ran ein chwiorydd ni mewn gwledydd eraill, sydd yn llawer mwy tebygol o fod o dan fygythiad newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys gweld eu cymunedau'n diflannu. Rydym ni'n gwybod bod yr enillion hawdd wedi eu cyflawni drwy leihau maint y glo a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu pŵer. Nawr mae angen inni edrych ar faterion llawer mwy heriol o ran lleihau allyriadau cerbydau, sy'n golygu gwella trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ar gyfer teithiau byr.
Rwyf eisiau ein hatgoffa ni i gyd y dylai merched allu trefnu'r cyfnod rhwng geni pob plentyn i gydymffurfio ag argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd sy'n nodi y dylai menywod aros dwy flynedd cyn cael plentyn arall, ac mae hyn yn ddiffygiol mewn cymaint o wledydd.
Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cefnogi cais Pythefnos Masnach Deg am gyflog byw ar gyfer menywod sy'n ffermio coco yn y Traeth Ifori, lle y maen nhw ar hyn o bryd yn cael 74c y dydd yn unig, a £1.86 yw'r swm y mae angen iddyn nhw ei ennill er mwyn gallu byw bywyd o ansawdd derbyniol.
Yn olaf, hoffwn nodi'r ymdrechion ar gyfer heddwch yn Israel-Palesteina sy'n cael eu harwain gan fenywod drwy sefydliad o'r enw Women Wage Peace. Ddydd Gwener, sef Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, bydd miloedd o fenywod o'r holl wahanol gymunedau ar draws Palesteina ac Israel—Arabaidd, Iddewig, Druze, Palestiniaid Israelaidd, ymsefydlwyr, yn ogystal â menywod yr effeithiwyd arnynt gan ddeddfwriaeth y genedl-wladwriaeth, sy'n golygu bod menywod Ffilipinaidd, er enghraifft, sydd wedi gweithio yn Israel ers blynyddoedd lawer yn wynebu cael eu halltudio, aelodau'r Senedd a cherddorion, i gyd yn cerdded o'r amgueddfa i Sgwâr Rabin gan godi pabell y fam yn Sgwâr Rabin a fydd yn aros yno tan ddiwrnod yr etholiad ar 6 Ebrill. O ystyried y sefyllfa enbyd sy'n wynebu Palestiniaid ar y Lan Orllewinol ac yn Gaza, rwy'n gobeithio y bydd menywod yn arwain yr ymgyrch am drafodaeth, sef y cam cyntaf i ddatrys yr anghydfod, sydd wedi parhau ers gormod o amser yn yr ardal honno.