Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 5 Mawrth 2019.
Byddaf yn ymateb i rai o'r pwyntiau cadarnhaol yr ydych chi wedi'u gwneud am bwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Credaf ei fod yn bwysig eich bod yn codi materion ynghylch stereoteipiau rhywiol. Yn 2018, lansiodd Llywodraeth Cymru yr ymgyrch Dyma Fi sy'n herio stereoteipio ar sail rhyw mewn modd cadarnhaol ac sy'n annog sgyrsiau am rywedd ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan gydnabod yn arbennig, y gall hyn fod yn achos ac yn ganlyniad o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae'n rhaid i ni wella cynrychiolaeth menywod mewn bywyd gwleidyddol a chyhoeddus a'u cefnogi yn y swyddogaethau hynny. Mae'n bwysig ein bod yn edrych, yn y Bil llywodraeth Leol ac etholiadau (Cymru), ar ffyrdd y gallwn fynnu bod arweinwyr grŵp y pleidiau gwleidyddol yn hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad ymhlith aelodau eu grŵp, a phwyllgorau safonau'r awdurdodau lleol i fonitro'r ffyrdd y mae menywod yn enwedig yn cael eu trin. Rwyf yn cefnogi adroddiad 'Lleisiau Newydd' y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, ac mae gan hwnnw argymhellion ynghylch y cyfryngau cymdeithasol a datblygu cod ymddygiad ar y cyd ar draws pob plaid ar gyfer ymddygiad bygythiol.
Rwy'n credu eich bod wedi gwneud pwynt pwysig am addysg a swyddogaeth addysg, a chredaf mai'r cwricwlwm newydd a fydd yn helpu i fynd i'r afael â hyn, yn enwedig o ran addysg cydberthynas a rhywioldeb ar draws y chwe maes dysgu a phrofiad.