Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 5 Mawrth 2019.
Mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yma, ond rydw innau hefyd yn cael trafferth yn deall sut mae Llywodraeth Cymru'n penderfynu a yw hi'n briodol i adael i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddeddfu mewn meysydd sydd wedi eu datganoli, oherwydd does dim rheswm yn fy marn i pam na allen ni fod wedi deddfu ein hunain ar y mater yma. Ac fel aelod o wrthblaid sy'n llefarydd ar y pwnc yma, mae'n rhwystredig iawn i fi i weld Gweinidogion Cymru a Gweinidogion San Steffan yn dod â rhyw fait accompli inni fan hyn yn y Senedd i'w dderbyn neu ei wrthod e. Hynny yw, mi fyddwn i wedi dymuno trio dylanwadu ar gynnwys yr hyn sy'n cael ei drafod yn fan hyn, ond wrth gwrs, mae'r peth yn fix sy'n cael ei gytuno rhwng Gweinidogion yn hytrach na'n bod ni fel Aelodau Cynulliad fan hyn yn cael hawl, fel y dylen ni, i graffu ar y cynigion yma yn y manylder y maen nhw'n ei haeddu.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y pwysau deddfwriaethol sy'n dod yn sgil Brexit yn golygu efallai fod yn rhaid i hynny gael blaenoriaeth o flaen peth deddfwriaeth domestig—dwi'n deall yr issue yna, ond does dim tystiolaeth o ddeddfwriaeth o'r math yna'n dod ger ein bron ni fan hyn ar lawr y Senedd eto, mewn gwirionedd. Ac rŷn ni'n clywed Gweinidogion, a'r Cwnsler Cyffredinol hefyd yn dweud ei fod yn awyddus a bod y Llywodraeth yn awyddus i adeiladu corff cydlynol o ddeddfwriaeth Gymreig, a'r Gweinidog ei hunan yn dweud ei bod hi am weld Deddfau Cymreig yn cael eu creu fan hyn yng Nghymru, ond wedyn dŷn ni ddim yn gwneud hynna pan fod y cyfle yn dod inni wneud hynna. Os na allwn ni ddeddfu ein hunain ar y mater yma—mae e'n Fil byr, mae e'n Fil dau gymal, mae e'n cynnwys darpariaethau cul, anghynhennus—yna o dan ba amgylchiadau allwn ni fyth bod yn deddfu ar fater fel hwn?