Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 5 Mawrth 2019.
Diolch, Cadeirydd. Cynigiaf y cynnig.
Diolch i chi am y cyfle i esbonio'r cefndir i'r ddadl heddiw sydd ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (anifeiliaid sy'n gweithio). Cyflwynwyd Bil Aelod preifat, y Bil Lles Anifeiliaid (anifeiliaid sy'n gweithio) yn Nhŷ'r Cyffredin gan Oliver Heald AS ar 18 Mehefin 2018, ac fe'i cefnogir gan Lywodraeth y DU. Diben y Bil yw cyflwyno amddiffyniad ychwanegol i anifeiliaid sy'n gweithio drwy ddiwygio adran 4 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Mae'n mynd i'r afael â phryderon y cyhoedd ynghylch cymhwyso adran 4(3)(c)(ii) o Ddeddf 2006 o ran ymosodiadau ar anifeiliaid sy'n gweithio, lle y gallai diffynnydd a gyhuddir o achosi dioddefaint diangen i anifail honni ei fod yn diogelu ei hun. Gellid dadlau y byddai modd defnyddio hyn i gyfiawnhau defnyddio grym corfforol yn erbyn anifail sy'n gweithio, gan o bosibl achosi dioddefaint diangen iddo.
Daw'r Bil yn sgil ymgyrch proffil uchel a oedd wedi'i ganolbwyntio'n bennaf ar Lywodraeth y DU, a adnabyddir fel cyfraith Finn. Dioddefodd Finn, ci heddlu, ymosodiad ffyrnig arno wrth gynorthwyo swyddog yr heddlu i restio rhywun a oedd o dan amheuaeth. Er i ymosodwr Finn gael ei erlyn a'i euogfarnu oherwydd yr ymosodiad, roedd yr achos yn amlygu pryder y cyhoedd am sut y cymhwysir adran 4(3)(c)(ii) o Ddeddf 2006.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a ystyriodd y Bil yn barod ar gyfer dadl heddiw. Gofynnodd ei aelodau am gadarnhad nad yw'r Bil yn effeithio ar hawliau dinasyddion nad ydynt yn ymwneud â gweithgarwch troseddol, nac o dan amheuaeth o hynny. Nid yw'r Bil arfaethedig yn amharu ar yr hawl sydd yng nghyfraith gwlad i amddiffyn eich hun, ac nid yw'n berthnasol mewn achosion lle yr ymosodir ar bobl ddiniwed sydd gerllaw gan anifail sy'n gweithio. Mae'n rhaid i'r defnydd o'r anifail fod yn rhesymol, ac mae'n rhaid i'r anifail fod o dan reolaeth swyddog perthnasol, fel y disgrifir yn y Bil. Rwyf yn fodlon nad oes unrhyw faterion hawliau dynol yn gysylltiedig â'r Bil hwn, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn tawelu unrhyw bryderon a allai fod gan Aelodau.
Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Materion Deddfwriaethol a Chyfansoddiadol am ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Rwyf wedi nodi siom aelodau nad yw'r amddiffyniad arfaethedig ar gyfer anifeiliaid gwaith wedi ei weithredu yng Nghymru drwy gyfrwng Bil i Gymru. Rwyf yn llwyr gefnogol o ddeddfwriaeth i Gymru yn cael ei chreu yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi hefyd ystyried y pwysau digynsail y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu o ran Brexit, a pha un a fyddai cyflwyno Bil ar amserlen wahanol i Loegr er lles gorau yr anifeiliaid y mae hyn yn ceisio'u hamddiffyn. Nid oes Bil Llywodraeth Cymru gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd ac ni fwriedir cyflwyno hynny ym mlwyddyn bresennol y Cynulliad a fyddai'n gyfrwng addas i gynnwys darpariaethau Bil Lles Anifeiliaid (anifeiliaid sy'n gweithio). Yn wir, fel y mae'r Pwyllgor wedi ei amlygu yn ei adroddiad, mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac oherwydd hyn, rwyf yn sicr bod y llwybr mwyaf priodol ac amserol er mwyn amddiffyn anifeiliaid sy'n gweithio wedi cael ei gymryd am resymau amseru a chydlyniad. Mae darpariaethau'r Bil yn cyd-fynd ag amcanion polisi Llywodraeth Cymru ynghylch hybu lles anifeiliaid. Bydd bwrw ymlaen â'r rhain yn y Bil DU hwn yn golygu y rhoddir yr un lefel o amddiffyniad i'r anifeiliaid sy'n gweithio yng Nghymru ar yr un pryd â'r rhai yn Lloegr. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn.