8. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 5 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:21, 5 Mawrth 2019

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae’n bleser gen i siarad yn y ddadl yma heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Mi gafodd y pwyllgor gyfarfod ar 14 Chwefror i drafod yr ail gyllideb atodol gan y Llywodraeth ar gyfer 2018-19. Wrth ystyried y gyllideb atodol hon, mi oedd y pwyllgor yn gymharol fodlon. Serch hynny, rŷn ni wedi gwneud nifer o argymhellion yr hoffem ni eu gweld nhw’n cael eu gweithredu a’u datblygu. Yn gyntaf, mae’r pwyllgor yn cydnabod mae proses barhaus a hirdymor i Lywodraeth Cymru yw cyflawni uchelgeisiau Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn siomedig o weld mai prin yw’r dystiolaeth o ran sut mae’r Ddeddf yn cael ei hystyried wrth wraidd holl benderfyniadau Llywodraeth Cymru. Felly, rŷn ni’n argymell bod Llywodraeth Cymru’n darparu cynllun cynhwysfawr ar gyfer pennu amcanion, yn amlinellu sut y mae’n bwriadu cyflawni gofynion y Ddeddf, yn enwedig o ran cyllidebu, ac i wneud hynny erbyn diwedd y Cynulliad hwn.

Gan droi at ffordd liniaru bosib yr M4, mae’r gyllideb atodol hon yn ymrwymo £27.8 miliwn i’r project, ac rŷn ni’n cydnabod, wrth gwrs, nad oes penderfyniad wedi bod eto o ran bwrw ymlaen ai peidio â’r ffordd liniaru. Ond, mi oedd y pwyllgor yn synnu o glywed, o ystyried yr arian sydd eisoes wedi ymrwymo i’r prosiect, nad oes unrhyw drafodaeth wedi bod rhwng y Gweinidog cyllid a’r Prif Weinidog o ran cynllunio ar gyfer ffordd liniaru bosib yr M4. Os caiff penderfyniad ei wneud i fwrw ymlaen â’r ffordd liniaru, yna rŷn ni’n argymell y dylai’r Gweinidog a’r Prif Weinidog gychwyn trafodaethau ar gynllunio cyllido hirdymor yn fuan.

Mae dyraniadau’r gyllideb atodol yn cynnwys £9.5 miliwn gyda’r amcan o ad-drefnu’r gweithlu yn Llywodraeth Cymru. Fe wnaethon ni glywed tystiolaeth fod y Llywodraeth yn ceisio dod â sgiliau newydd i mewn, ac efallai hefyd greu swyddi i gefnogi Brexit. Ond doedd dim ffigurau ar gael am arbedion na chostau gwirioneddol. Bydden ni yn disgwyl i gynllun o’r fath werth arwain at arbedion i’r sefydliad. Felly, rŷn ni yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am ganlyniad y cynllun ymadael gwirfoddol, yn dangos sut y defnyddiwyd yr arian hwnnw a pha arbedion fydd yn cael eu cyflawni yn y tymor hwy.

Gan symud ymlaen at iechyd a gofal cymdeithasol, fe wnaethon ni glywed tystiolaeth bod £20 miliwn wedi cael ei neilltuo dros y gaeaf blaenorol i liniaru’r pwysau disgwyliedig ar y byrddau iechyd. Nawr, rŷn ni’n cydnabod bod pwysau’r gaeaf yn gallu amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond, yn y Deyrnas Unedig, rŷn ni’n credu bod modd rhagweld y mathau hyn o bwysau, i raddau helaeth. Mae’r pwyllgor yn argymell, felly, fod cynllunio ariannol yn y dyfodol ar gyfer y byrddau iechyd yn cyfri am wariant y mae modd ei ragweld ar gyfer pwysau’r gaeaf, a hynny cyn gynted â phosib yn y broses gyllidebu. Byddai hyn yn osgoi, wedyn, yr angen am gyllid sylweddol yn ystod y flwyddyn, a gallai hefyd leddfu pryderon y pwyllgor y gallai prif grŵp gwariant—y MEG—iechyd fod yn rhyw fath o gronfa wrth gefn yn ei hun ar gyfer darparu cyllid iechyd ychwanegol.

Gan droi at Brexit, mae'r pwyllgor yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r swm canlyniadol llawn yn ymwneud â Brexit ar gyfer paratoadau i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, mae pryder bod yr ansicrwydd am y ffordd y mae’r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ar lefel y Deyrnas Unedig, yn achosi risg sylweddol i waith cynllunio Llywodraeth Cymru. Rŷn ni’n cefnogi sylwadau Llywodraeth Cymru y byddai'n troi at Lywodraeth y Deyrnas Unedig os bydd senario ‘dim cytundeb’ i sicrhau unrhyw gyllid perthnasol ac y byddai'n disgwyl cael ei hysbysu am ddatblygiadau os bydd y senario hon yn codi.

Yn olaf, mae'r pwyllgor yn croesawu'r cyfle i drafod y memorandwm esboniadol y mae Comisiwn y Cynulliad wedi'i ddarparu cyn iddo gael ei osod. Mae'r Comisiwn, am y tro cyntaf, yn dychwelyd tanwariant o benderfyniad y bwrdd taliadau i gronfa gyfunol Cymru, ac rŷn ni'n croesawu hyn.

Mae'r pwyllgor hefyd yn fodlon gyda'r memorandwm esboniadol y mae'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus wedi'i ddarparu. Serch hynny, mae'n gobeithio, wrth baratoi amcangyfrifon a chyllidebau atodol yn y dyfodol, y bydd yr ombwdsmon yn ystyried argymhellion y Pwyllgor Cyllid ynghylch sut y dylid cyflwyno'i gyllideb a pha wybodaeth sy'n cael ei darparu i gefnogi ei alwadau i sicrhau tryloywder. Felly, gyda hynny o sylwadau, mae hwn wedi bod yn gyfle i mi gyfleu safbwynt y Pwyllgor Cyllid, ac rwy’n edrych ymlaen i’r Llywodraeth, wrth gwrs, ymateb yn bositif i’n hargymhellion ni.