8. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 5 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 4:32, 5 Mawrth 2019

Mater cymharol dechnegol, wrth gwrs, ydy'r gyllideb atodol yma, felly wnaf i ddim siarad yn hir, ond mae e'n werth nodi mai dyma fydd y gyllideb atodol olaf, dwi'n credu, fel rhan o'r cytundeb dwy flynedd roedd fy mhlaid i wedi'i gytuno gyda Llywodraeth Lafur. Ac rŷn ni wedi medru cyflawni llawer fel rhan o'r cytundeb hwnnw, ac rŷn ni'n dathlu hynny, yn arbennig yn ystod y cyfnod diwethaf yma. Hoffwn i gyfeirio at ddau beth, a dweud y gwir, a all greu sylfeini ar gyfer y dyfodol a gobeithio, wrth gwrs, maes o law, sylfeini y gallwn ni adeiladu arnyn nhw pan dŷn ni yn llywodraethu.

Rwy'n cyfeirio'n bennaf at gynllun yr Arfor sydd wedi cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau diwethaf, sydd yn gosod mas fframwaith gychwynnol ar gyfer mynd i'r afael â'r problemau hirdymor rŷm ni'n mynd i wynebu yn y gorllewin, yn y de-orllewin, yn y gogledd-orllewin, yn y gorllewin Cymraeg felly, yn ein heconomi'n fanna sydd, wrth gwrs, nid yn unig yn bwysig o ran polisi datblygu economaidd, ond sydd â sgileffaith eithaf sylfaenol o ran hyfywedd y cymunedau hynny, a hynny wedyn, wrth gwrs, yn effeithio ar ein huchelgais ni o ran sicrhau dyfodol hyfyw o ran y Gymraeg yn yr ardaloedd sydd mor greiddiol i'w ffyniant.

Mae'r rhaglen honno yn un arbrofol, yn un arloesol, oherwydd mae'n rhaid inni wneud pethau o'r newydd; allwn ni ddim cario ymlaen i wneud yr un hen beth gyda'n polisi economaidd ni, polisi economaidd sydd wedi methu'r cymunedau hynny. Mae hynny i'w weld, wrth gwrs, yn y diffyg cyrhaeddiant o ran perfformiad economaidd yn yr ardaloedd hynny. Felly, mae'n dda i weld cydnabyddiaeth o hynny ar ran y Llywodraeth, a dweud y gwir. Man cychwyn ydy cydnabod eich bod chi'n mynd yn rong, yntefe—y cam cyntaf ydy gwneud rhywbeth gwahanol. Ac er ar raddfa fach o ran buddsoddiad—dim ond £2 filiwn dŷn ni'n sôn amdano i ddechrau—o leiaf dŷn ni wedi medru creu sylfaen ar gyfer meddwl o'r newydd, edrych o'r newydd, a gobeithio y bydd modd maes o law, yn ein tyb ni, wrth gwrs—dim ond trwy ffurfio Llywodraeth Plaid Cymru y byddwn ni'n gallu troi'r rhaglen gychwynnol yma yn rhaglen drawsnewidiol ar gyfer yr ardaloedd hyn.

I’r un cyfeiriad, wrth gwrs, ar lefel genedlaethol, hefyd mae’r rhaglen sydd yn ymwneud â’r economi gwaelodol—foundational economy—yn cydnabod hefyd fod yna ddiffyg sylfaenol wedi bod yng nghyfeiriad polisi economaidd y Llywodraeth. Hynny yw, diffyg pwyslais ar gwmnïau bychain a chanolig eu maint wedi gwreiddio yn yr economi lleol yng Nghymru—grounded firms yn ieithwedd yr ymagwedd neu’r dynesiad yma. Ond hefyd, wrth gwrs, ceisio defnyddio’r levers sydd ar gael inni yn yr economïau yr oedd Hefin David wedi sôn amdanyn nhw—rhai o’r ardaloedd ym Mlaenau’r Cymoedd er enghraifft, sydd ddim wedi cael ffocws digonol ynglŷn â chreu swyddi cynaliadwy, hirdymor, sefydlog, gwerth uchel, cyflog uchel yn yr ardaloedd hynny. Mae’r un patrwm i’w weld ar draws Cymru, ac o leiaf mae yna gydnabyddiaeth, ac fe welon ni hynny yn sylwadau’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb, Lee Waters, dros y penwythnos, fod yna wagle wedi bod yng nghanol polisi economaidd y Llywodraeth Lafur yma ers blynyddoedd. Wel, haleliwia, pan mae yna bechadur yn edifarhau, y cam cyntaf ydy cydnabod bod yna fai, bod yna ddiffyg, bod angen gwneud rhywbeth gwahanol.

Felly, rŷm ni’n croesawu’r ffaith bod yna o leiaf hedyn wedi’i hau yma, wrth gwrs, yn y pen draw, er mwyn sicrhau bod yna brifiant, mae eisiau sicrhau ein bod ni’n troi’r cynlluniau peilot yma a’r buddsoddiad bychan yma, o gymharu, wrth gwrs, gyda’r gyllideb gyfan, yn ganolbwynt, yn graidd i bolisi economaidd, yn hytrach na rhywbeth ar y cyrion, ac yn y blaen. Ond, mae’n siŵr gen i y bydd angen gweld newid gwleidyddol, maes o law, er mwyn sicrhau hynny, ond o leiaf dŷn ni wedi medru gwneud rhyw gyfraniad at greu sylfaen fydd yn ddefnyddiol i ni mewn dwy flynedd a hanner pan wnawn ni gymryd yr awenau.