Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 12 Mawrth 2019.
Daw hyn â ni at y cyfnod pledleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud at y bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais honno ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Eluned Morgan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, pump yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.