Grŵp 5: Cywiriadau drafftio (Gwelliannau 2, 7, 10, 12, 13)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 13 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:29, 13 Mawrth 2019

Diolch, Llywydd. Dwi'n cynnig gwelliant 2 ac yn siarad i'r gwelliannau eraill yn y grŵp yma. Mae hwn yn grŵp o welliannau sy'n mynd i'r afael â nifer fach o gywiriadau drafftio. Er enghraifft, mae gwelliannau 2 ac 13 yn sicrhau bod yr holl gyfeiriadau at 'ddod ag ymchwiliad i ben' yn gyson yn y testun Cymraeg. Mae gwelliant 7 yn dileu gair diangen yn y testun Cymraeg. Mae gwelliant 10 yn mewnosod y gair 'neu' ar ddiwedd adran benodol. Ac, yn olaf, mae gwelliant 12 yn cywiro mân wall ddrafftio yn y Bil i gyfeirio at is-adran yn hytrach nag adran, felly mi fyddwn ni'n gobeithio'n fawr, gan mai materion drafftio mân yw'r rhain, y bydd Aelodau’n gweld eu ffordd yn glir i gefnogi’r gwelliannau.