Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 13 Mawrth 2019.
Symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Roedd 27 o blaid gwelliant 1, neb yn ymatal, a 21 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.