Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 13 Mawrth 2019.
Felly, yr unig bleidlais heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Cyfoeth Naturiol Cymru, y ddadl a gawsom yn awr, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig hwnnw. Agor y bleidlais. A yw pawb sy'n bwriadu pleidleisio wedi pleidleisio? Iawn felly, caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 13, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.