Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 13 Mawrth 2019.
Diolch yn fawr iawn, Lynne. Mae'r grŵp cynghori cenedlaethol ar atal hunanladdiad a hunan-niwed yn ymgynghori ag aelodau'r grŵp a rhanddeiliaid eraill ar y canllawiau hynny cyn eu cyhoeddi ym mis Ebrill. Byddwn yn gweithio gyda'r grŵp i sicrhau y caiff y canllawiau eu hyrwyddo'n helaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol, ac mae hynny'n cynnwys gweithwyr proffesiynol nid yn unig mewn ysgolion ond yn fwy eang ymhlith gwasanaethau ieuenctid a phobl eraill sy'n gweithio gyda'n pobl ifanc.