Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 13 Mawrth 2019.
Weinidog, yn ôl y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, mae tystiolaeth yn awgrymu bod gwahaniaethau yn y modelau ariannu lleol yn achosi pryderon fod ysgolion mewn amgylchiadau tebyg yn cael eu trin yn anghyfartal. Aethant yn eu blaenau i alw ar Lywodraeth Cymru i ystyried adolygu'r model ariannu ysgolion os yw am wireddu eu huchelgais i sicrhau tegwch mewn perthynas ag addysg a lles myfyrwyr ysgol. Weinidog, mae Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru wedi dweud nad yw'r system ariannu gyfredol yn addas i'r diben—eu geiriau hwy, nid fy rhai i. Pa gamau a gymerwch i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn o ran y fformiwla ariannu ysgolion yng Nghymru, os gwelwch yn dda?