Fformiwla Cyllido Ysgolion

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 13 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 1:49, 13 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Yr wythnos diwethaf, cynhaliais ddigwyddiad galw heibio ar gyfer Aelodau'r Cynulliad ar ran undebau addysgu amrywiol, gan gynnwys yr Undeb Addysg Cenedlaethol. Dywedodd athrawon a oedd yn bresennol wrthyf eu bod yn poeni bod toriadau yng nghyllid Llywodraeth y DU yn effeithio'n uniongyrchol ar eu gallu i roi'r diwygiadau addysg ar waith, gan gynnwys, er enghraifft, Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Maent yn dadlau bod angen i'r fformiwla ariannu ysgolion fod yn fwy teg ac adlewyrchu heriau cyfredol. Ac yn eich ymateb i ddadl y Ceidwadwyr ar y pwnc hwn, roeddech yn cydnabod y gall y ffordd y caiff ysgolion eu hariannu fod yn eithaf cymhleth mewn gwirionedd, a dywedasoch nad ydych yn gwrthwynebu newid y fformiwla ariannu mewn egwyddor. Mae hynny i'w groesawu, a chyda hynny mewn golwg, a wnewch chi ymrwymo i ddeialog reolaidd a pharhaus gydag awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, undebau'r athrawon a'r proffesiwn addysgu er mwyn edrych i weld sut i fynd i'r afael â'r materion hyn, a sut y gallwn wneud y gorau o'r amgylchiadau anodd hyn yn wyneb cyni parhaus?