Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 13 Mawrth 2019.
Rhianon, fel y dywedwch, mae'r ymgynghoriad yn ystyried y posibilrwydd o ddiwrnod hyfforddi cenedlaethol yn gysylltiedig â gweithredu'r cwricwlwm newydd, ond nid wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw ein bod wedi cael dros 300 o ymatebion i'r ymgynghoriad eisoes, ac o gofio mai'r wythnos diwethaf yn unig y cafodd ei lansio, mae'n ymateb rhyfeddol.
Rwy'n ymwybodol fod cyfyngiadau ariannol ar rai teuluoedd yn golygu eu bod yn ystyried tynnu eu plant o'r ysgol i fwynhau gwyliau teuluol, ac yn sicr, pan fo gwyliau yng Nghymru yn wahanol i'r gwyliau dros y ffin yn Lloegr, fel a ddigwyddodd yn ddiweddar dros hanner tymor, gall hynny effeithio'n sylweddol ar y prisiau sy'n rhaid i deuluoedd eu talu. Ond wrth gwrs, wrth drefnu diwrnodau HMS nid wyf yn meddwl am gyfleustra pris gwyliau, mae ein diwrnodau HMS yno i roi cyfle i athrawon gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol ac i baratoi ar gyfer heriau'r cwricwlwm newydd.