Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 13 Mawrth 2019.
Diolch. Ar hyn o bryd, pennir cynnwys ac amseriad diwrnodau HMS gan awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a phenaethiaid. Fel y gwyddoch, yr wythnos diwethaf, lansiais ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer diwrnodau dysgu proffesiynol cenedlaethol HMS ychwanegol ar gyfer y tair blynedd academaidd nesaf, sy'n cynnwys cwestiynau penodol ar amseriad y dyddiau ychwanegol hynny.