Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 13 Mawrth 2019.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Ar hyn o bryd, mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i isafswm o 10 awr yr wythnos o addysg cyfnod sylfaen am ddim yn yr ysgol neu mewn meithrinfa a ariennir yn y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Yn Lloegr, mae gan bob plentyn hawl i 15 awr yr wythnos. Oherwydd natur wledig llawer o ganolbarth Cymru, nid yw dwy awr yn hyd addas o amser, o ran teithio, i bobl allu teithio o'u cartrefi i'w lleoliad ac i ddarparu'r addysg cyfnod sylfaen honno. A yw hyn yn rhywbeth y byddech yn barod i'w ailystyried ac i edrych arno eto?