Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 13 Mawrth 2019.
Diolch i chi am hynny, Weinidog. Fel y clywsom yn gynharach, ysmygu yw prif achos marwolaeth ataliadwy ac anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru o hyd. A dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae cyfradd y cynnydd o ran lleihau cyfraddau ysmygu wedi arafu'n fawr. Un ffordd effeithiol o ostwng cyfraddau ysmygu, yn arbennig mewn ardaloedd mwy difreintiedig efallai, yw camau gweithredu cymunedol i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu. A wnewch chi ystyried cynnwys y camau gweithredu cymunedol hyn yn y cynlluniau trawsnewid iechyd gwerth £100 miliwn?