5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Effaith Brexit ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a'r Gymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 13 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 4:00, 13 Mawrth 2019

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn, ac yn benodol yr adran ar y Gymraeg? Mae'r iaith yn gyfrifoldeb trawsbynciol, wrth gwrs, i'r Llywodraeth, felly efallai fod rhai o'm cwestiynau yn fater i'r Gweinidog yn lle'r Cadeirydd, ond hoffwn i wybod oddi wrth y ddwy ohonoch chi, os yw hynny'n ocê.

Dyw dyfodol yr iaith ddim yn bodoli mewn gwagle, felly rwy'n falch o weld cyfeiriad at amaethyddiaeth a'r gyfran gymharol uchel o bobl sy'n siarad Cymraeg bob dydd yn y sector hwnnw. Cafodd yr iaith gyfeiriad pitw yn 'Brexit a'n tir'. Dylai ei ddarllenwyr ofyn cwestiwn am yr effaith ar yr iaith, heb unrhyw dystiolaeth yn y ddogfen hon yn cael ei darparu. Rwy'n chwilfrydig, felly, i wybod pa sicrwydd roddodd y Gweinidog i'r pwyllgor fod asesiadau effaith ar y Gymraeg yn rhan annatod o broses y Llywodraeth ar gyfer paratoi ar gyfer Brexit, yn enwedig 'no deal' Brexit, achos nid oedd yn amlwg yn y dystiolaeth a roddwyd i bwyllgorau eraill.

Yn benodol, mae'r adroddiad yn cyfeirio at y bygythiad o golli cronfeydd strwythurol yn ardaloedd tlotaf y Gymru Gymraeg, ond mae'r un bygythiad i'r ardaloedd tlotaf o Gymru lle nad yw'r iaith yn gyffredin, ac mae hynny hefyd yn broblem. Dyna'r ardaloedd o Gymru lle rydym yn ceisio cynyddu defnydd o'r iaith, am ei gwerth cynhenid, wrth gwrs, ond hefyd fel sgíl ychwanegol a fydd yn dod yn fwy perthnasol i'r farchnad swyddi, gan gyfrannu at symudedd cymdeithasol ac yn y blaen. Fe glywodd y pwyllgor fod Gweinidog yr economi a Gweinidogion eraill yn ystyried hyn fel rhan o drafodaethau cronfa ffyniant y Deyrnas Unedig, neu'r defnydd o gronfa drosiannol Llywodraeth Cymru. Dwi ddim yn gwybod a yw hwn wedi dod lan, ond os yw e wedi, hoffwn i wybod tipyn bach mwy am hynny.

Rwy’n cytuno'n llwyr â'r gosodiad fod Cymru'n elwa o'r gallu i hyrwyddo ei hun fel cenedl sy'n ystwyth o safbwynt ieithyddol mewn marchnad sy'n fwyfwy byd-eang. Dyma'r meddylfryd y tu ôl i'n polisi ni fel Ceidwadwyr Cymru ar gyfer Cymru dairieithog, a lansiwyd rai blynyddoedd yn ôl, ond sy'n dal i fod yn rhan ganolog o'm meddylfryd i fel llefarydd yr wrthblaid dros addysg. Nodwyd yr egwyddor gyffredinol hynny gan y Gweinidog dros addysg ar y pryd, a daeth yn rhan o bolisi'r Llywodraeth. Felly, hoffwn i gael rhywfaint o sicrwydd, efallai gan y Gweinidog, fod hynny'n parhau i fod yn bolisi i'r Llywodraeth. Diolch. Sori, i'r Gweinidog. Diolch.