Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 13 Mawrth 2019.
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor.
Cyn inni symud ymlaen i drafod y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru), mae'n bleser gen i gyhoeddi canlyniad y bleidlais gudd ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a bydd yr holl ganlyniadau yn cael eu cyhoeddi. Felly, Janet Finch-Saunders, 25 o bleidleisiau; Mark Isherwood, 14 o bleidleisiau; ac un bleidlais yn ymatal. Dwi'n datgan, felly, fod Janet Finch-Saunders wedi cael ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Llongyfarchiadau i Janet Finch-Saunders.