Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 13 Mawrth 2019.
Diolch o galon, Llywydd. Gan mai dyma fy nghyfraniad cyntaf i i'r trafodion heddiw, mi hoffwn i wneud ambell i sylw cyffredinol, gyda'ch caniatad chi, os caf i, ar y cychwyn yn fan hyn.
Ein nod ni fel pwyllgor, wrth gwrs, yn y Bil hwn yw cryfhau rôl yr ombwdsmon er mwyn amddiffyn y rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni, er mwyn gwella cyfiawnder cymdeithasol, ac er mwyn sicrhau gwelliant o ran gwasanaethau cyhoeddus ac ymdrîn â chwynion. Ar ran y Pwyllgor Cyllid, dwi'n ddiolchgar iawn i'r rheini sydd wedi bod yn barod i ymgysylltu â ni a chyfrannu at ein hystyriaethau ni wrth i'r Bil fynd yn ei flaen.
Mi hoffwn i ddiolch i holl Aelodau'r Cynulliad, ac yn arbennig aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith craffu ar y Bil hyd yn hyn. Mi oedd y Pwyllgor Cyllid yn falch o allu derbyn bron pob un o'r argymhellion yng Nghyfnod 1, a lle bo angen, wedyn, dwi wedi cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i fynd i'r afael â'r materion hynny a gafodd eu codi. Mi hoffwn i hefyd roi ar gofnod fy niolch i Lywodraeth Cymru am ymgysylltu â ni ac am y modd y maen nhw hefyd wedi cyfrannu at ddatblygu'r Bil.
Felly, gan droi at y gwelliannau penodol yn y grŵp cyntaf yma, dwi'n cynnig gwelliant 22 ac yn siarad, wrth gwrs, i'r holl welliannau yn y grŵp yma.
Yng Nghyfnod 2, mi wnes i gyflwyno gwelliannau i newid yr arddull ddrafftio yn y Bil er mwyn sicrhau bod y termau yn y darpariaethau newydd yn niwtral o ran rhywedd. Roedd y gwelliannau hyn yn berthnasol i'r darpariaethau newydd a oedd yn cael eu mewnosod yn unig, nid i Ddeddf ailddatganedig 2005. Mi wnes i ddweud, os byddai cytundeb am y gwelliannau hynny, mai fy mwriad i wedyn fyddai cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 3, fel bod y Bil cyfan yn niwtral o ran rhywedd, a dyna dwi'n ei wneud yn fan hyn. Felly, mae hyn yn sicrhau bod y darpariaethau newydd a'r darpariaethau ailddatganedig yn bodloni arddull drafftio deddfwriaethol y Cynulliad o beidio â bod yn benodol o ran rhywedd. Ac mi fyddwn i felly'n gofyn i Aelodau i gefnogi hynny trwy gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp yma.