Gwella Amseroedd Aros Ysbytai

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 19 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:38, 19 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. A yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol, yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2018, bod ambiwlans yn aros y tu allan i ysbytai yn y Fenni ac yng Nghasnewydd am dros 5,000 o oriau ac, felly, nid oeddent yn gallu ymateb i achosion brys. O gofio mai dau yw'r criw ambiwlans cyfartalog ar yr achlysuron hyn, mae hynny'n 10,000 o oriau criw a gollwyd. 15 munud yw'r amser trosglwyddo targed yn yr achosion hyn, ond o ran Ysbyty Brenhinol Gwent, dim ond hanner yr amser y bodlonwyd y targed hwnnw.

Nawr, datgelwyd y ffigurau hyn mewn ateb i gais rhyddid gwybodaeth gan Mr Eddie Blanche, a ddywedodd ei fod wedi gweld ambiwlansys yn cael eu gwasanaethu gan faniau lles y tu allan i'r ysbyty i gyflenwi criwiau a oedd yn aros gyda diodydd poeth a thoiledau gan fod disgwyl iddyn nhw aros yno am amser mor hir. Felly, os yw'n ddigon gwael bod yn rhaid iddyn nhw roi bws iddyn nhw orffwyso wrth aros i ddadlwytho cleifion, yna mae hwn yn fater y mae angen rhoi sylw iddo nawr. Meddai, 'Mae'n frawychus. Rwy'n poeni y bydd pobl yn dechrau marw os na chaiff y broblem ei datrys'. Pryd mae'r Prif Weinidog yn credu y bydd y broblem yn cael ei datrys?