Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 19 Mawrth 2019.
Wel, yn gyntaf oll, Dirprwy Lywydd, nid dyna'r math o anghydraddoldeb cyflog yr oeddwn i'n cyfeirio ato. Roeddwn i'n cyfeirio, wrth gwrs, at syniadau llawer mwy prif ffrwd o anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau yn y gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Rwyf i, fy hun, yn credu mewn system lle ceir lluosydd rhwng tâl y rhai sy'n cael y cyflogau isaf yn y sefydliad a'r rhai sy'n cael y cyflogau uchaf yn y sefydliad, ac y dylai hynny fod ar gyfradd sefydlog a gytunwyd, ac wedyn rydych chi'n cael pwysau ar anghydraddoldebau cyflog i godi tâl y rhai sydd ar waelod y raddfa gyflog, sy'n llawer mwy niferus, wrth gwrs, yn hytrach na phwyslais poblyddol ar unigolion mewn rhannau eraill o'r sbectrwm.