Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 19 Mawrth 2019.
Dirprwy Lywydd, rŷn ni eisiau gweld cyrff ledled Cymru yn hybu’r iaith Gymraeg yn y gweithle. Rŷn ni’n ei wneud e fan hyn yn y Senedd, rŷn ni’n ei wneud e’n fewnol yn y Llywodraeth Gymreig. Rŷn ni’n dysgu gwersi sydd gyda ni, er enghraifft, oddi wrth heddlu yng ngogledd Cymru, a beth rŷn ni eisiau ei wneud yw tynnu’r gwersi, tynnu beth sy'n digwydd a beth sy’n effeithiol yng Nghymru, a gwneud mwy yn y cyrff cyhoeddus i hybu’r iaith Gymraeg i roi hyder i bobl sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg a gwneud mwy i'w helpu nhw i loywi’r iaith sydd gyda nhw. Mae’r Gweinidog yn gweithio ar yr agenda yna bob dydd.