Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 19 Mawrth 2019.
A gaf i bwysleisio eto bwysigrwydd adeiladu tai cyngor er mwyn ymdrin â'r argyfwng tai sy'n wynebu Cymru? A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch Abertawe bod pobl bellach yn byw yn eu cartrefi cyngor newydd a hefyd y rhai sy'n cael eu hadeiladu? Ond beth arall a all Llywodraeth Cymru ei wneud i oresgyn yr hyn sy'n atal cynghorau rhag adeiladu nifer fawr o anheddau cyngor, sef yr hyn a ddywedwyd gennych yn eich ateb cyntaf?