4. Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 19 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:02, 19 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Cadeirydd. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud gwelliannau i Reoliadau Cofrestru Sefydliadau (Ieir Dodwy) (Cymru) 2004 Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007, Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007, a  Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014. Mae'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau yn cynnwys hepgor y cyfeiriad at yn gweithredu fel aelod-wladwriaeth mewn lles anifeiliaid a Rheoliadau adeg eu lladd (Cymru) 2014.

O ran Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007, cywiro cyfeiriadau at gyfarwyddebau'r UE gan na fydd cyfarwyddebau'r UE yn rhan o'r gyfraith ddomestig ar y diwrnod ymadael. Yn yr achos hwn, mae diffiniad 'triniaeth sootechnegol' wedi'i dynnu allan o gyfarwyddeb perthnasol y cyngor a'i fewnosod yn y rheoliadau hyn. Gwnaed darpariaeth atodol hefyd gan newid cyfeiriadau amrywiol at Gynulliad Cenedlaethol Cymru i 'Weinidogion Cymru'. Mae'r gwelliannau hyn yn adlewyrchu'r status quo. Mae gwelliannau o'r fath yn ategu'r darpariaethau hynny sydd yn gosod swyddogaethau ychwanegol ar Weinidogion Cymru.

Yn olaf, gwnaed newidiadau i Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 a fydd yn rhoi terfyn ar cyd-gydnabod tystysgrifau cymhwysedd ar gyfer gweithwyr lladd-dai a gyhoeddwyd mewn Aelod-wladwriaethau eraill. Byddai parhau i gydnabod tystysgrifau yn codi materion gorfodi posibl, oherwydd ni fyddem yn gallu atal na dirymu tystysgrif a gyhoeddwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall. Yn y weithred o ladd, byddai'n torri gofynion deddfwriaeth yr UE a gedwir neu ddeddfwriaeth ddomestig. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cadarnhau na fydd tystysgrifau cydnabod cymhwysedd a gyhoeddwyd yn y DU yn cael eu cydnabod mewn aelod-wladwriaethau eraill ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cadarnhau nad oes unrhyw weithwyr lladd-dai ar hyn o bryd sydd â thystysgrif cymhwysedd a gyhoeddwyd mewn aelod-wladwriaeth Ewropeaidd yn gweithio yng Nghymru. Cynigiaf y cynnig.