Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 20 Mawrth 2019.
Weinidog, mae ymchwiliad a gynhaliwyd gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi dangos y gallai Cymru elwa'n fawr o fwy o ddefnydd o geir trydan. Fodd bynnag, mynegodd y pwyllgor bryderon fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf yn dangos arweiniad ar y mater hwn. Aethant ymlaen i ddweud—neu'r cwestiwn yn hytrach yw, a yw'r £2 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar i wella'r seilwaith ar gyfer pwyntiau gwefru ceir trydan yn hwb ariannol digon mawr. Beth yw eich ymateb, Weinidog, i'r pryderon hyn a godwyd gan y pwyllgor? A pha sicrwydd y gallwch ei roi fod cymorth Llywodraeth Cymru yn ddigonol i hyrwyddo'r rhan hon o'n sectorau modurol?