Hyrwyddo'r Sector Modurol

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 1:58, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

O'r gorau. Diolch. Weinidog, gwn eich bod wedi hyrwyddo'r sector diwydiannol modurol yn gadarn, a thanlinellir hynny o fewn y cynllun gweithredu economaidd, ac mae'n ddiwydiant pwysig yng Nghymru sy'n cynnwys tua 150 o gwmnïau, yn cyflogi bron 19,000 o bobl, yn hollbwysig—13 y cant o weithlu gweithgynhyrchu Cymru—yn creu dros £3 biliwn o refeniw, ac yn gweithgynhyrchu 30 y cant o'r 2.7 miliwn o injans a gynhyrchir yn y DU gyfan. Felly, Weinidog, pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu'r diwydiant modurol yng Nghymru wrth inni ymdopi â'r heriau ansicr a digynsail sy'n gysylltiedig ag anhrefn Brexit Llywodraeth Dorïaidd y DU sy'n dra niweidiol i weithgynhyrchu yng Nghymru?