Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 20 Mawrth 2019.
Diolch am y cwestiwn. Rydych wedi codi mater pwysig iawn. Nid yw hyn yn gyfyngedig i ganolbarth Cymru—mae'r broblem hon yr un mor fawr yn Llanelli ag y mae yn Sir Drefaldwyn. Dyma un o'r rhesymau pam fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth yr Alban a Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau i ddatblygu banc cymunedol, gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd cyfleusterau bancio i gymunedau o hyd. Ac er bod y farchnad fasnachol wedi tynnu allan o'r gofod hwnnw, mae angen i'r Llywodraeth ymyrryd er mwyn llenwi'r bwlch yn sgil methiant y farchnad tra bo'r gymdeithas wrthi'n newid. Felly, rydym yn gweithio ar hynny ar hyn o bryd, a gobeithiwn, drwy hynny, y bydd modd inni sicrhau bod rhai cyfleusterau bancio cymunedol yn dychwelyd i'r stryd fawr, ac rwy'n fwy na pharod i wrando ar unrhyw syniadau sydd gan yr Aelod ynglŷn â pha waith pellach y dylem ei wneud.