Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 20 Mawrth 2019.
Daw hyn â ni at y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar Gyfnod 4 y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Llyr Gruffydd. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, tri yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.