Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 20 Mawrth 2019.
Wel, roedd honno'n ymdrech dda i osgoi, ond ni wnaethoch ateb y cwestiwn mewn gwirionedd. Rydych yn gwbl iawn i ddweud bod y Prif Weinidog wedi dweud y byddai cynnal ail refferendwm yn peri rhwyg ac efallai na fyddai'n derfynol, a dywedodd yn gwbl glir nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi ail refferendwm o gwbl ar hyn o bryd. Ond wrth gwrs, mae hynny'n wahanol iawn i'r datganiadau gan y Gweinidog iechyd heddiw, sydd bellach yn ymgyrchu'n weithredol, mae'n ymddangos, dros bleidlais y bobl, fel y'i gelwir, i'r graddau ei fod yn trefnu dau fws o Lundain i Gaerdydd. A allwch ddweud wrthym ble mae hyn yn gadael cyfrifoldeb cyfunol Llywodraeth Cymru, a ydych o'r farn y dylai Gweinidog sy'n mynd yn groes i safbwynt y Llywodraeth ymddiswyddo, oherwydd yn amlwg—[Torri ar draws.]—yn amlwg, efallai fod y Gweinidog iechyd—[Torri ar draws.]—efallai fod y Gweinidog iechyd yn awyddus i drefnu bysiau, ond nid yw ar yr un bws â Llywodraeth Cymru?