Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 20 Mawrth 2019.
Wel, fe wnaf y pwynt yn glir i'r Aelod eto: yr hyn a ddywedais y bore yma wrth Lywodraeth y DU mewn cynhadledd ffôn yw bod angen newid sylfaenol yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn edrych ar y cwestiwn hwn. Mae'r hyn a wnânt yn gwbl anghyfrifol. Os mai 30 Mehefin yw graddau'r estyniad, i'w ystyried gan yr UE—. Gyda llaw, wrth inni sefyll yma heddiw, nid yw'n glir fod hynny'n dderbyniol i'r Undeb Ewropeaidd hyd yn oed, felly gadewch i ni beidio â bod yn ddifater ynghylch y posibilrwydd o adael heb gytundeb ddiwedd yr wythnos nesaf. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni barhau i ganolbwyntio arno. Ond os mai dyna yw maint yr estyniad sydd ei angen, mae'n sicr yn bosibl ailnegodi datganiad gwleidyddol yn y ffrâm amser honno. A phe baem yn gwneud hynny, byddem yn ceisio gwneud hynny mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r egwyddorion y mae ei phlaid hi hefyd wedi'i gefnogi yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a chredaf yn gryf, ac mae Llywodraeth Cymru'n credu bod mwyafrif o blaid hynny yn y Senedd ac yn sicr, ceir brwdfrydedd o blaid hynny yn yr Undeb Ewropeaidd. Ac fel y dywedais, ac fel y mae Llywodraeth Cymru wedi dweud dro ar ôl tro: os nad yw hynny'n bosibl, byddai angen refferendwm arall i ddatrys yr anghytundeb hwnnw.