Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 20 Mawrth 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl ar y cynnig hwn heddiw. Mae'n fater pwysig i mi mewn dwy ffordd, yn rhannol oherwydd fy mod yn llefarydd ar faterion rhyngwladol, ond hefyd oherwydd bod Imam Sis, sydd wedi ein hysbrydoli i gyflwyno'r ddadl heddiw, yn byw yng Nghasnewydd, sydd yn fy rhanbarth. Rwy'n rhagweld y bydd gan Aelodau ar ochrau eraill y Siambr safbwyntiau gwahanol ynglŷn â beth sydd wedi dod â ni i'r pwynt hwn, ac fe ddaw amser i ni drafod y pwyntiau hynny, ond gadewch inni ddechrau gyda'r bywyd dynol sydd yn y fantol yma, lai na 15 milltir o ble y safwn yr eiliad hon.
Fe ddywedaf ei enw eto, oherwydd dyn a ŵyr, nid yw wedi cael y sylw y dylai fod wedi'i gael hyd yma: Imam Sis. Mae Imam wedi bod ar streic newyn ers 94 diwrnod a gwnaeth hynny mewn protest ynglŷn â'r modd y mae gwladwriaeth Twrci yn trin arweinydd y Cwrdiaid, Abdullah Öcalan, sydd wedi'i garcharu, heb gysylltiad â neb am gyfnodau, ers 1999 yn groes i gyfraith ryngwladol. Mae Imam ar y streic newyn hon am gyfnod amhenodol ochr yn ochr â 300 o'i gydwladwyr, gan gynnwys Leyla Güven, sy'n AS Cwrdaidd a etholwyd yn ddemocrataidd i Senedd Twrci ac sydd bellach yn agos at farw ar ôl gwrthod bwyd am 130 o ddiwrnodau'n olynol. Rwy'n erfyn ar yr Aelodau i beidio â diystyru'r hyn rydym yn sôn amdano yma—bywydau pobl. Am y rheswm hwnnw, rwy'n nodi bod ein cynnig heddiw yn un syml ac ni fyddwn yn derbyn unrhyw un o'r gwelliannau a gynigir.
Rwyf wedi ysgrifennu at Leyla ac at ysgrifenyddiaeth y pwyllgor Ewropeaidd er atal arteithio, a galwodd fy llythyr arnynt i adolygu eu hymchwiliad i driniaeth Mr Öcalan. Mae'r pwyllgor wedi edrych ar ei achos cyn hyn. Yn anffodus, nid oes ganddynt y pwerau angenrheidiol i sicrhau bod hawliau dynol Mr Öcalan yn cael eu gorfodi, a dyna pam y mae'r rhai sy'n ymgyrchu ar ei ran wedi troi at fesurau eithafol i geisio sicrhau bod ei hawliau cyfreithiol yn cael eu parchu.
Croesawodd Plaid Cymru benderfyniad Llywodraeth Cymru i sefydlu gweinyddiaeth materion rhyngwladol, ac mae heddiw'n gyfle i Gymru gymryd ei lle ar y llwyfan rhyngwladol drwy fod y wlad gyntaf, drwy gyfrwng y Senedd a'r Llywodraeth hon, i ddangos ei bod yn sefyll gyda'r Cwrdiaid. Does bosib nad yw'n ddyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru i gydnabod a chefnogi'r rhan y mae dyn o Gasnewydd yn ei chwarae ar hyn o bryd yn y frwydr ryngwladol dros gyfiawnder, cydraddoldeb a hawliau dynol. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau, ac rwy'n gobeithio'n wirioneddol y cawn gefnogaeth y meinciau Llafur yn ogystal, o gofio bod arweinydd eu plaid, Jeremy Corbyn, hefyd wedi rhoi ei gefnogaeth lawn i achos y streicwyr newyn. Diolch.