Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 20 Mawrth 2019.
Prif nod y PKK, wrth gwrs, yw sefydlu gwladwriaeth Gwrdaidd annibynnol yn ne-ddwyrain Twrci, Syria ac Irac, ond mae'r PKK eisiau manteisio'n llawn hefyd ar rym gwleidyddol Cwrdaidd, ac mae wedi gwneud hyn drwy ddangos anoddefgarwch, mygu gwrthwynebiad ac ymosod ar fuddiannau grwpiau gwleidyddol Cwrdaidd sy'n cystadlu â hwy.