8. Dadl Plaid Cymru: Y Cwrdiaid yn Nhwrci

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:47, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ei gwneud yn glir i ddechrau fod Llywodraeth Cymru yn condemnio erledigaeth a thrais yn eu holl ffurfiau, yn unrhyw le yn y byd, a'n bod yn cefnogi ymdrechion i hyrwyddo cymod lle ceir anghytgord?

Nawr, i droi at y cynnig ger ein bron heddiw, credaf ei bod hi'n bwysig cydnabod a dathlu'r cyfraniad gwleidyddol, economaidd a diwylliannol a wneir gan bobl o dras Cwrdaidd i gymunedau Cymru. Pan fydd pobl sy'n cael eu geni mewn rhannau eraill o'r byd yn dod i Gymru i wneud eu cartref yng Nghymru, cawn ein  cyfoethogi fel gwlad. A phan fydd y rhai sydd wedi mabwysiadu Cymru fel eu gwlad yn dioddef fel cenedl, rydym yn dioddef gyda hwy, a dyna pam rydym yn hynod o bryderus ynglŷn â chyflwr dirywiol Imam Sis o Gasnewydd. Rydym yn bendant yn cydnabod cryfder y teimlad sy'n bodoli mewn cymunedau yng Nghymru ynglŷn â'r mater yr ydym yn ei drafod heddiw. Fel y clywsom, mae ar streic newyn i dynnu sylw ac i geisio gwelliannau i'r amodau y mae'r arweinydd Cwrdaidd Öcalan yn cael ei gadw ynddynt mewn carchar yn Nhwrci.

Heddiw, siaradais â llysgennad Twrci yn y Deyrnas Unedig, fel y gwneuthum ym mis Ionawr, pan soniais am bryderon dinasyddion Cymreig ynghylch cyflwr iechyd Imam Sis sy'n gwaethygu a'r rhesymau dros ei streic newyn barhaus. Nododd y llysgennad fod y pwyllgor Ewropeaidd er atal arteithio wedi cyhoeddi adroddiad ym mis Mawrth 2018 a oedd yn nodi bod yr amodau roedd Öcalan yn cael ei gadw ynddynt wedi gwella'n sylweddol ers eu hymweliad blaenorol yn 2013. Awgrymodd hefyd fod brawd Öcalan wedi bod yn ymweld ag ef ym mis Ionawr eleni a chyn belled ag y gŵyr—ac mae'n debyg ei bod yn werth gwirio hyn—mae Öcalan yn cael cysylltu â chyfreithwyr. Mae'n werth nodi, fodd bynnag, fod yr adroddiad Ewropeaidd yn awgrymu bod gan yr awduron bryderon difrifol ynghylch cysylltiad y carcharor â'r byd y tu allan, a bod hyn wedi gwaethygu ymhellach.

Mae sefyllfa cymunedau Cwrdaidd yn Nhwrci a'r gwledydd cyfagos yn fater hynod gymhleth sydd â gwreiddiau dwfn yn hanesyddol yn ogystal ag arwyddocâd ehangach yng ngwleidyddiaeth gyfoes yr ardal. Ers y 1980au, cafwyd cyfres o ymdrechion aflwyddiannus i roi terfyn ar y trais drwy drafodaethau heddwch, ac yn ystod y cyfnod hwn, mae mwy na 40,000 o bobl wedi colli eu bywydau. Ni allwn golli golwg ar hyn, ac mae ein meddyliau gyda'r dioddefwyr, eu teuluoedd, a'r sifiliaid a ddaliwyd ar ddwy ochr y gwrthdaro.

Nawr, rydym yn disgwyl i'r awdurdodau Twrcaidd roi sicrwydd y glynir at hawliau dynol carcharorion, gan gynnwys mynediad at driniaeth feddygol. Rydym yn cefnogi safbwynt Llywodraeth y DU ynglŷn ag annog pob ochr i ddychwelyd at drafodaethau, ac i'r broses heddwch ailddechrau a chreu cymod a heddwch parhaol.

Mae'r cynnig dan ystyriaeth heddiw yn gwahodd y Cynulliad Cenedlaethol i alw ar Lywodraeth Cymru i ysgrifennu at y Cyngor Ewropeaidd ar ei ran. Gan mai dyma'r ddadl gyntaf o'r natur hon ers i mi ddod yn Weinidog cysylltiadau rhyngwladol, credaf ei bod hi'n bwysig pwysleisio a thanlinellu'r ffaith bod polisi tramor yn faes polisi a neilltuwyd yn benodol i Lywodraeth y DU. Felly, mae'r pŵer i gynhyrchu datganiad o'r fath yn nwylo Llywodraeth y DU. Ni waeth faint y byddai Plaid Cymru'n hoffi ein gweld yn cael y pŵer hwn, y ffaith amdani yw nad yw yn ein dwylo ni.

Mae'r cynnig i'w weld braidd yn anarferol, yn yr ystyr nad yw dadl yr wrthblaid heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud unrhyw beth yn y meysydd y mae gennym gyfrifoldeb ynddynt a lle mae gennym adnoddau ar gael i roi camau ar waith.