Cyfarfod y Cyngor Ewropeiaidd

Part of Cwestiwn Brys – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 1:45, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Yn yr un modd ag eraill, roeddwn i'n falch iawn o ymuno â'r filiwn o bobl ar strydoedd Llundain ddydd Sadwrn, ac roeddwn i'n falch o orymdeithio y tu ôl i Lynne Neagle, a oedd yn arwain galw gan filiwn o bobl i gael llais teg a'r gair olaf yn y materion hyn. Roeddwn i wrth fy modd o glywed y Gweinidog iechyd a'r Gweinidog materion rhyngwladol yn siarad dros Gymru ac yn siarad dros Lywodraeth Cymru a Llafur Cymru, yn mynnu—mynnu—bod unrhyw gytundeb yn mynd yn ôl i'r bobl ar gyfer y gair olaf. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â Tom Watson pan siaradodd ddydd Sadwrn? Dywedodd mai'r ffordd o uno ein gwlad, ein Seneddau a'n pobl unwaith eto yw rhoi'r materion hyn yn ôl i'r bobl, i bleidlais gyhoeddus, er mwyn galluogi pob un ohonom ni i wneud penderfyniad ar ein sefyllfa heddiw a'r argyfwng sydd wedi ei greu gan fethiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ac a ydych chi'n cytuno â Keir Starmer pan ddywedodd bod yn rhaid i unrhyw gytundeb y mae'r Prif Weinidog yn dychwelyd ag ef fynd yn ôl i'r bobl fel mai'r bobl sy'n gwneud y penderfyniad hwn a'n bod ni'n uno'r wlad hon ac yn symud oddi wrth y rhaniadau y mae pobl ar dde eithafol byd gwleidyddiaeth wedi ceisio eu creu a manteisio arnynt? A thrwy wneud hynny, y peth cyntaf y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei wneud nawr yw sicrhau bod gennym ni amser—bod gennym ni amser i wneud y penderfyniad hwnnw, bod gennym ni amser i ystyried y materion hyn a bod gennym ni amser i bleidleisio arno. Gadewch i mi ddweud hyn: byddaf yn sefyll yn gadarn ac yn siarad dros fy etholwyr—[Torri ar draws.]—oherwydd fe'm hetholwyd ganddyn nhw i wneud hynny. [Torri ar draws.] Dydych chi erioed wedi ennill etholiad o gwbl.