Cyfarfod y Cyngor Ewropeiaidd

Part of Cwestiwn Brys – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:42, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi ein bod yn awr mewn argyfwng o ran democratiaeth? Dywedodd ar ddechrau'r cwestiwn hwn heddiw ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth erbyn hyn i gyflawni ewyllys y Senedd. Ond onid y broblem yn y fan yma yw bod y Senedd yn anfodlon i gyflawni ewyllys y bobl? Pleidleisiodd 17.4 miliwn o bobl dros adael yr UE yn y refferendwm, ond mae gennym fwyafrif llethol o Aelodau Seneddol, ac yn wir, mwyafrif llethol o Aelodau'r Cynulliad hwn, sydd o blaid aros, ac yn benderfynol, ar bob cyfrif, i lesteirio penderfyniad pobl Prydain mewn refferendwm rhydd ddwy flynedd a hanner yn ôl.

Mae 87 y cant o'r rhai sydd o blaid gadael, yn y pôl piniwn cyfredol a gyhoeddwyd heddiw, yn credu bod gwleidyddion eisiau atal Brexit, ac mae hyd yn oed 38 y cant o'r rhai sydd o blaid aros yn credu bod gwleidyddion eisiau atal Brexit. Dim ond 19 y cant o'r cyhoedd a anghytunodd â hynny. Mae pedwar deg un y cant o'r cyhoedd yn credu y dylem ni adael ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, a dim ond 28 y cant sy'n anghytuno. Mae 53 y cant o'r cyhoedd yn dweud os bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio i ddirymu erthygl 50, y bydd yn gwneud niwed anadferadwy i'r broses ddemocrataidd. Onid yw hyn yn fater o'r dosbarth gwleidyddol proffesiynol yn y fan yma yn mynd wyneb yn wyneb â'r bobl, a dim ond un ffordd y mae hynny'n mynd i ddod i ben maes o law?