Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 26 Mawrth 2019.
Yn y datganiad ysgrifenedig heddiw, rydych chi'n sôn am leihau allyriadau ac am foderneiddio'r gweithlu dur o ran y gwaith pŵer ac o ran y cyfleusterau newydd sydd ar gael. Wrth gwrs, roedd hyn yn rhan o gytundeb cyllidebol Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, a hoffwn ddeall ar ba gam yr ydym ni erbyn hyn o ran rhyddhau'r cyllid ar gyfer camau'r dyfodol. Rydym ni wedi cael sawl trafodaeth yn y grŵp trawsbleidiol ar y diwydiant dur, gan fod yn awyddus i fwrw ymlaen â'r datblygiad hwn, ond efallai heb ddeall yn llawn pryd y bydd camau'r dyfodol yn gallu cael eu rhyddhau, i wneud yn siŵr y gallwn ni fod mor ystyriol o'r amgylchedd â phosibl yng ngwaith dur Port Talbot, ond hefyd gwneud yn siŵr ei fod yn lle modern i bobl weithio ynddo hefyd.