Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 26 Mawrth 2019.
Diolch, Prif Weinidog. Rwyf yn croesawu eich datganiad ysgrifenedig yn gynharach heddiw ar ymchwil a datblygiad ym maes dur. Rwy'n ymwybodol bod grŵp Liberty wedi lansio strategaeth dur gwyrdd, sy'n ailgylchu dur. Nawr, maen nhw'n dweud y bydd hyn yn gweddnewid gweithgynhyrchu, yn ailfywiogi'r gadwyn gyflenwi ac yn creu swyddi medrus newydd, gan sicrhau dyfodol wedyn i'r diwydiant dur yma yng Nghymru. Pa ystyriaethau mae eich Llywodraeth a chi eich hunan wedi eu rhoi i fuddsoddi a chefnogi'r cynllun arbennig hwn a chynlluniau a strategaethau eraill tebyg iddo?