Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:06, 26 Mawrth 2019

Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi wrtha i fan hyn mai polisi eich Llywodraeth chi o ran Cymraeg yn y gweithle yw gwthio cyrff cyhoeddus i wneud mwy i hybu'r Gymraeg. Fodd bynnag, y gwrthwyneb sydd wedi digwydd yn achos y llyfrgell genedlaethol, lle mae wedi dod yn amlwg bod y Gweinidog diwylliant wedi gwrthwynebu yn chwyrn gwneud y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer swydd y prif lyfrgellydd, yn groes i bolisi eich Llywodraeth chi eich hun. Mae e-byst rhwng Llywodraeth Cymru a'r llyfrgell genedlaethol ynglŷn ag e-byst mewnol rhwng y Gweinidog a'i swyddogion yn cadarnhau bod y Llywodraeth wedi ceisio bargeinio o ran yr archif ddarlledu genedlaethol i ddwyn pwysau ar awdurdodau'r llyfrgell i beidio â gwneud y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd. Dyma ddyfyniad o gofnod o sgwrs ffôn rhwng yr adran diwylliant a'r llyfrgell, lle dywedwyd wrth y llyfrgell: