Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 26 Mawrth 2019.
Os caf i ddweud—[Torri ar draws.] A gaf i ddweud bod hynny'n ymateb gwbl warthus gan y Prif Weinidog i gwestiwn digon dilys a oedd yn gofyn dim ond am ddyfarniad ganddo fe? Yn ôl y cod, mae hawl gyda ni i ofyn iddo fe am ddyfarniad. Mae e wedi gwneud ei safbwynt yn glir. Mae'n siŵr y byddwn ni'n dychwelyd at y mater yma pan ddaw rhagor o fanylion i'r fei.