Datblygu Brand Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:37, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am hynny, ac mae'n fater a godwyd gyda mi ar sawl achlysur gan y diwydiant lletygarwch. Fel y gwyddoch, maent yn wynebu pryderon gwirioneddol am eu dyfodol yr ochr arall i'r Undeb Ewropeaidd os yw eu gallu i recriwtio pobl o'r tu allan i Gymru gan bolisïau mewnfudo Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei beryglu. Golyga hyn eu bod yn gwybod yn y tymor hwy fod yn rhaid iddynt wneud mwy i ddenu pobl ifanc i'r busnes hwnnw a bod y busnes hwnnw'n cael ei weld fel rhywle lle gellir cael gyrfa sy'n mynd â chi o'r man cychwyn at ddyfodol y byddech yn ei ystyried yn un a fyddai'n gwella eich rhagolygon yn y dyfodol.

Rydym eisiau gweithio ochr yn ochr â'r diwydiant i wneud hynny, a bydd gwneud yn siŵr bod yna raglenni cymwysterau a hyfforddiant cydnabyddedig y gall pobl eu cymryd yn ddi-os yn rhan o sgwrs y byddwn yn awyddus i barhau i'w chael gyda'r sector. Rydym eisiau adeiladu ar y gydnabyddiaeth sydd ganddyn nhw eu hunain am yr ymdrechion sydd angen iddynt eu gwneud fel bod eu cynnyrch yn fwy deniadol i bobl ifanc, a chreu gweithle mewn modd a fydd yn caniatáu iddynt gadw talentau pobl ifanc a'u gwneud yn aelodau hirdymor  o'r gweithlu.