Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 26 Mawrth 2019.
Fis yn ddiweddarach i ddyddiad yr e-bost, rŷn ni'n gwybod bod y buddsoddiad yma ar gyfer yr union archif ddarlledu yn y fantol. Ydych chi, Brif Weinidog, yn cytuno bod yr awgrym lleiaf o ddefnyddio dylanwad amhriodol gan Weinidogion yn hollol annerbyniol, ac a wnewch chi felly sicrhau'r Cynulliad y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i ystyried a yw'r Dirprwy Weinidog diwylliant a'i adran wedi gweithredu'n groes i'r cod gweinidogol a'r egwyddorion Nolan yn hyn o beth?