Cam-drin Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus Ar-lein

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:42, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Nid oes unrhyw amheuaeth gennyf fod trolio menywod ar y cyfryngau cymdeithasol yn epidemig ac mae'n mynd yn waeth. Mae gennyf brofiad personol fy hun o hyn, ac rwy'n sefyll yn gadarn yn erbyn y cam-drin pryd bynnag y byddaf yn ei gael, a phan welaf fenywod eraill yn ei gael hefyd oherwydd ni allwn adael i'r bwlis ennill.

Mewn cynhadledd o'r enw Slaying The Trolls yr oeddwn yn bresennol ynddi tua diwedd y flwyddyn ddiwethaf, clywsom am ganfyddiadau ymchwil a gynhaliwyd gan y Brifysgol Agored a Phrifysgol Stirling. Canfu'r ymchwil hon fod y risg i fenywod ifanc rhwng 18 a 29 o fod yn darged i ymosodiadau bygythiol a sarhaus ar y rhyngrwyd ddwywaith yn fwy na'r risg i fenywod rhwng 40 a 49 oed, ac yn fwy na thair gwaith yn uwch na'r risg i fenywod rhwng 50 a 59 oed. Ys gwn i beth yw effaith hyn i gyd ar atal menywod rhag mynegi eu barn.

Gwnaed ychydig o argymhellion gan y tîm, gan gynnwys y gydnabyddiaeth y dylid ystyried trais a bygythiadau ar-lein yn erbyn menywod fel math o drais ar sail rhywedd yn erbyn menywod a merched. Rwy'n cefnogi hyn. A yw'r Llywodraeth yn cytuno, ac os ydych, a wnewch chi ddweud wrthym beth yr ydych yn mynd i wneud am y peth, os gwelwch yn dda?