Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 26 Mawrth 2019.
Mae menyw o’r Rhondda wedi cysylltu â mi y mae ei merch sy’n 23 oed wedi dioddef bygythiad i’w hiechyd yn ddiweddar. Ar ôl cael symptomau, fe aeth am brawf gwaed, a phan yr oedd hi yn y clinig, fe ddarllenodd boster gwybodaeth am ganser ceg y groth ac fe sylweddolodd bod ganddi bob un o’r symptomau a ddisgrifiwyd ar y poster, namyn un. Pan ddywedodd hi wrth y meddyg am ei phryderon, fe ddywedodd y meddyg wrthi na châi hi brawf ceg y groth oherwydd ei bod hi o dan 25 oed. Nawr, roedd hyn yn ystod wythnos pan yr oedd pob un ohonom ni’n cael ein hannog i fynd am ein prawf ceg y groth, ac fe ddywedwyd wrthi y byddai'n rhaid iddi aros tan ei bod hi dros 25 oed cyn y gallai hi gael y prawf. Gymaint oedd y pryder yn y teulu am y symptomau yr oedd y fenyw ifanc hon yn eu harddangos, fel eu bod nhw wedi trefnu apwyntiad gyda gynecolegydd mewn ysbyty preifat y bore canlynol. Bu'r fenyw a’i theulu yn poeni am ddwy wythnos a hanner wrth ddisgwyl am ganlyniadau’r prawf, a oedd yn glir, diolch byth.
Nawr, roedd y teulu hwn yn ffodus, roedden nhw’n gallu fforddio talu i fynd yn breifat, ond beth pe na byddai ganddyn nhw’r arian i gael prawf ceg y groth yn breifat? Rwyf yn cytuno â mam y fenyw hon pan ddywedodd hi, 'Os oes symptomau yn cael eu hysbysebu a bod rhywun yn arddangos y symptomau hynny, onid synnwyr cyffredin yw cael ymchwiliad?' Felly, fe hoffwn i gael datganiad ynghylch polisi'r Llywodraeth ar hyn, ac yn y datganiad hwnnw rwyf eisiau i'r Gweinidog iechyd egluro beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar sgrinio menywod o dan 25 oed sydd â symptomau o ganser ceg y groth. A oes eithriadau i’r rheol oedran gyffredinol? Ac fe hoffwn gael gwybod hefyd pa fecanweithiau sydd ar waith i ad-dalu’r teulu hwn am eu bod nhw wedi cael eu gorfodi i fynd yn breifat er mwyn cael y tawelwch meddwl y dylen nhw fod wedi gallu ei gael drwy ein GIG.