3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:17, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Pleser mawr i mi yw cael cyflwyno Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) i'r Cynulliad Cenedlaethol heddiw. Bu hen ddisgwyl am y Bil hwn a bu ymgyrchu am amser maith, gennyf innau hefyd. Ac, yn wir, arweiniodd Christine Chapman, y cyn-Aelod Cynulliad dros Gwm Cynon, a chredaf ei bod hi yn yr oriel heddiw, ddadl yn Siambr y Cynulliad ym mis Ionawr 2002 ar y testun, 'Mae taro plant yn anghywir, ac mae plant yn bobl hefyd.' Felly, mae gennym hanes hir yn y Cynulliad hwn yn hyn o beth.

Mae cyflwyno hwn heddiw yn garreg filltir bwysig yn ein hymrwymiad ni i wella a sefydlu hawliau i blant yng Nghymru, ac yn ein hymrwymiad i bobl Cymru i gadw'r addewidion a wnaethom ni ar garreg y drws. Fe wnaethom addo y byddem yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiddymu'r amddiffyniad o gosb resymol pan ofynnwyd i'r cyhoedd bleidleisio o'n plaid yn 2016. Ac rwy'n ymfalchïo ein bod ni'n anrhydeddu'r addewid honno heddiw.

Cyn imi droi at y Bil ei hunan, hoffwn roi teyrnged i waith dau a ddaeth yn syth o'm blaen i sydd wedi bod â rhan allweddol i ddod â ni i'r sefyllfa hon heddiw. Felly, hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies, a gyflwynodd y Bil gyda'r ymarfer ymgynghori mor frwdfrydig, ac, wrth gwrs, i Carl Sargeant.

Mae'n briodol ein bod ni'n cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon eleni, y flwyddyn y mae'r gymuned ryngwladol yn dathlu deng mlynedd ar hugain o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Nod cyffredinol y Bil yw helpu i ddiogelu hawliau plant.

Rwy'n awyddus i fod yn eglur o'r cychwyn cyntaf o ran yr hyn na fydd y Bil hwn yn ei wneud—ni fydd yn creu trosedd newydd. Ein bwriad yw cefnogi rhieni wrth iddyn nhw fagu eu plant a darparu cymorth ychwanegol a chefnogaeth, pe bai angen, wrth wneud yn siŵr bod plant yn cael yr un lefel o amddiffyniad yn erbyn cosb gorfforol ag oedolion yn ôl y gyfraith.

Pe caiff y Bil ei basio, ni fydd yr amddiffyniad o gosb resymol ar gael i rieni yng Nghymru mwyach, neu'r rhai sy'n gweithredu in loco parentis, fel amddiffyniad i gyhuddiad o ymosodiad cyffredin neu daro. Caiff hynny ei ddiddymu o dan gyfraith droseddol a sifil fel ei gilydd. Er bod cosb gorfforol wedi ei hen wahardd mewn ysgolion, cartrefi plant, yng ngofal maeth awdurdod lleol ac yn y ddarpariaeth o ofal plant, caiff oedolion sy'n gweithredu in loco parentis mewn mannau nad ydyn nhw'n rhai addysgol, gan gynnwys y cartref, ddefnyddio'r amddiffyniad o gosb resymol. Felly, mae'r Bil hwn yn diddymu'r man gwan hwn.